John WatkinJONES29 Hydref, 2025.
Yn dawel yn ei gwsg, yng Nghartref Willow Hall, Caernarfon, ac o Bron Eifion, Y Fron, yn 98 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Mary a thad cariadus Elma, Magi, Rhian a'r diweddar Ann; tad-yng-nghyfraith Dave, Dafydd, Gareth a'r diweddar Gareth, taid a hen-daid balch ei wyrion a'i wyresau oll, brawd hoffus ei ddiweddar chwiorydd, ewythr hwyliog a ffrind triw i lawer. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau.
Angladd brynhawn Llun, 17 Tachwedd, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghanolfan Y Fron am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel.
Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at elusennau lleol.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates